Neath Arts Festival returns from the 15th-19th of October 2025 with a programme of events showcasing the visual arts, literature, music, theatre and heritage, at venues across the town centre.
The theme of this year’s festival is ‘Dramatic Icons’ and we are pleased to welcome the actress Dame Siân Phillips to talk about her autobiography and stellar career before an audience at the Gwyn Hall. Turning the spotlight on other local dramatic icons, we are pleased to have the writer and academic Gillian Kelly discussing her new book about Neath born Oscar winner Ray Milland, and the writer Angela V. John talking about her book ‘Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton’, the man credited with helping Richard Burton find fame.
Former Super Furry Animals frontman Gruff Rhys will play a solo show at the Gwyn Hall following the release of his latest album ‘Dim Probs’, and St. David’s Church becomes a focus for performances by local musicians and singers.
Queen Street Gallery and Studio 40 are the locations for exhibitions of work by the Burton-Bont Group and artworks inspired by Under Milk Wood.
Neath Little Theatre will host a performance of ‘Martin Decker: DAD’ performed by Keiron Self and Neath Town Hall will be the location for four days of readings and discussions with an ecletic and exciting mix of writers including Lord Peter Hain, Joe Dunthorne and Gwenno Gwilym.
Our pop-up museum will open for three days at the Orchard Street Community Centre giving people an insight into the history of the town, and the festival will arrange visits by writers and musicians to local primary schools making sure hundreds of children will have cultural experiences.
There are a number of art and performance workshops for people who are looking for an opportunity to get creative during the festival too.
We are grateful to all our volunteers and partners for helping to realise this year’s event and pay particular thanks to Neath Town Council for its steadfast support in making it all happen. This project is part-funded by the UK government through the UK Shared Prosperity Fund.
We look forward to seeing you at the festival!
Mae Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn dychwelyd o'r 15fed-19eg o Hydref 2025 gyda rhaglen o ddigwyddiadau yn dathlu celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth, theatr a threftadaeth, mewn lleoliadau amrywiol ar draws canol y dref.
Thema’r ŵyl eleni yw 'Eiconau Dramatig' ac rydym yn falch o groesawu'r actores Y Fonesig Siân Phillips i siarad am ei hunangofiant a'i gyrfa ddisglair o flaen cynulleidfa yn Neuadd Gwyn. Gan droi'r sylw at eiconau dramatig lleol eraill, rydym yn falch o groesawu’r awdures a'r academydd Gillian Kelly i Gastell-nedd i drafod ei llyfr newydd am yr enillydd Oscar, Ray Milland, a'r awdures Angela V. John yn siarad am ei llyfr 'Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton' am yr unigolyn sy'n cael y clod am helpu Richard Burton i ddod o hyd i enwogrwydd.
Bydd Gruff Rhys yn chwarae sioe unigol yn Neuadd y Gwyn wedi i’w albwm diweddaraf 'Dim Probs' gael ei ryddhau, a bydd Eglwys Dewi Sant yn ganolfan ar gyfer perfformiadau gan gerddorion a chantorion lleol.
Oriel Stryd y Frenhines a Stiwdio 40 yw lleoliadau arddangosfeydd o waith Grŵp Burton-Bont a gweithiau celf wedi'u hysbrydoli gan ‘Dan y Wenallt’.
Bydd Theatr Fach Castell-nedd yn cynnal perfformiad o ‘Martin Decker: DAD’ a berfformir gan Keiron Self, a Neuadd y Dref Castell-nedd fydd y lleoliad ar gyfer pedwar diwrnod o ddarlleniadau a thrafodaethau gan gymysgedd eclectig a chyffrous o awduron gan gynnwys yr Arglwydd Peter Hain, Joe Dunthorne a Gwenno Gwilym.
Bydd ein hamgueddfa dros dro yn agor am dri diwrnod yng Nghanolfan Gymunedol Stryd y Berllan gan roi cipolwg i bobl ar hanes y dref, a bydd yr ŵyl yn trefnu ymweliadau gan awduron a cherddorion ag ysgolion cynradd lleol gan sicrhau y bydd cannoedd o blant yn cael profiadau diwylliannol.
Bydd nifer o weithdai celf a pherfformio i bobl sy'n chwilio am gyfle i fod yn greadigol yn digwydd yn ystod yr ŵyl hefyd.
Rydym yn ddiolchgar i'n holl wirfoddolwyr a'n partneriaid am helpu i wireddu digwyddiad eleni ac yn diolch yn arbennig i Gyngor Tref Castell-nedd am ei gefnogaeth gadarn wrth wneud i'r cyfan ddigwydd. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
