Neath Arts Festival is delighted to present the jazz pianist Joe Webb at a very special homecoming show on Saturday the 17th of October 2026.

Joe grew up in Neath before moving away to study music and has since become one of the most successful jazz pianists of his generation. His last album was nominated for the Mercury Music Prize and he’s collaborated with musicians such as Jools Holland and Raye.

 Joe returns to perform at Neath Little Theatre with Will Sach on bass and Sam Jesson on drums. Tickets can be purchased (like all festival tickets) via the Gwyn Hall.

 This year’s festival showcases music, books, art, drama, and heritage at venues across the town centre.

 The books programme includes an appearance by the Gavin & Stacey and EastEnders actor, Larry Lamb, who will read his poetry and talk about his life and career. The programme also features Jeffrey Holland, a renowned comedy actor best known for roles in Hi-de-Hi! and You Rang, M’Lord?. He will talk about his biography with collaborator Robert Ross at Neath Town Hall.

 The wide-ranging books programme will also include Jon Doyle and Anthony Shapland in a discussion of their acclaimed new novels, Welsh language writer Grug Muse discussing her memoir of cycling across America and Ben Giles discussing his book where he describes his life as a crime scene cleaner. Neath Town Hall will also be the location for a series of short talks by the Neath Antiquarian Society about fascinating local histories.

 Art exhibitions include art inspired by Ancient Rome at Queen Street Gallery, Neath and District Photographic Society at the Camera Club on Bridge Street and shows by both the Pontardawe and Cadoxton Art Clubs.

 One of the most exciting music events will be a performance by Neath Symphony Orchestra at St. David’s Church. The orchestra has been dormant for decades but has been resurrected by volunteers.

 Neath Little Theatre will be the venue for a play called Cyn on Thursday the 15th of October at 7.30pm. The play explores the change in mining communities over time, centred on the arrival of a lone English hiker seeking assistance at a quiet, local pub in the Valleys.

 Neath Arts Festival exists to stage artistic and cultural events in Neath Town Centre. We are grateful to Neath Town Council and all our sponsors for helping us to realise the festival. We encourage you to get in touch should you want to volunteer…

shwmae@neathartsfestival.cymru

Bydd y pianydd jazz Joe Webb yn dychwelyd i Gastell-nedd i berfformio sioe arbennig iawn fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Castell-nedd ar ddydd Sadwrn 17 Hydref 2026.

Tyfodd Joe i fyny yng Nghastell-nedd cyn symud i ffwrdd i astudio cerddoriaeth a datblygu enw da fel un o bianyddion jazz mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth. Enwebwyd ei albwm diwethaf am Wobr Gerddoriaeth Mercury ac mae ef wedi cydweithio â cherddorion fel Jools Holland a Raye 

Mae Joe yn dychwelyd i berfformio yn Theatr Fach Castell-nedd gyda Will Sach ar y bas a Sam Jesson ar y drymiau. Gellir prynu tocynnau (fel pob tocyn gŵyl) trwy Neuadd Gwyn.

Bydd yr ŵyl eleni yn dathlu cerddoriaeth, llyfrau, celf, drama a threftadaeth mewn lleoliadau amrywiol ar draws canol y dref.

Bydd y rhaglen lyfrau yn cynnwys ymddangosiad gan yr actor adnabyddus, Larry Lamb, fydd yn darllen ei farddoniaeth ac yn siarad am ei fywyd a'i yrfa. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys Jeffrey Holland, actor comedi sy’n enwog am rannau yn y cyfrei Hi-de-Hi! a You Rang, M’lord?. Bydd Jeffrey yn siarad am ei fywgraffiad gyda'i gyd-awdur Robert Ross yn Neuadd y Dref.

Bydd y rhaglen lyfrau hefyd yn cynnwys Jon Doyle ac Anthony Shapland mewn trafodaeth o'u nofelau newydd clodwiw, yr awdures Grug Muse yn trafod ei hunangofiant o feicio ar draws America a Ben Giles yn trafod y llyfr sy'n disgrifio ei fywyd fel glanhawr lleoliadau trosedd. Neuadd y Dref hefyd fydd lleoliad cyfres o sgyrsiau byr gan Gymdeithas Hynafiaethol Castell-nedd am hanesion lleol diddorol.

Mae’r arddangosfeydd celf eleni’n cynnwys celf wedi'i hysbrydoli gan Rufain Hynafol yn Oriel Stryd y Frenhines, gwaith Cymdeithas Ffotograffig Castell-nedd a'r Cylch yn y Clwb Camera ar Stryd y Bont a sioeau gan Glybiau Celf Pontardawe a Chadoxton.

Un o'r digwyddiadau cerddoriaeth mwyaf cyffrous fydd perfformiad gan Gerddorfa Symffoni Castell-nedd yn Eglwys Dewi Sant. Mae'r gerddorfa wedi bod yn segur ers degawdau ond mae wedi cael ei hatgyfodi gan wirfoddolwyr er mwyn cynnal y perfformiad hwn.

Bydd Theatr Fach Castell-nedd yn lleoliad drama o'r enw Cyn ar ddydd Iau 15 Hydref am 7.30yh. Mae'r ddrama'n archwilio'r newid mewn cymunedau glofaol dros amser, wedi'i chanoli ar ddyfodiad cerddwr unig o Loegr yn chilio am gymorth mewn tafarn leol dawel yn y Cymoedd.

Mae Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn bodoli i lwyfannu digwyddiadau artistig a diwylliannol yng Nghanol Tref Castell-nedd. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Tref Castell-nedd a'n holl noddwyr am ein helpu i wireddu'r ŵyl. Rydym yn eich annog i gysylltu os hoffech wirfoddoli… shwmae@neathartsfestival.cymru