
Neath Arts Festival Craft-Along
4 September 2025
Neath Arts Festival returns from the 15th-19th of October 2025
4 September 2025
Mae Gŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn dychwelyd o’r 15fed-19eg o Hydref 2025 gyda rhaglen o ddigwyddiadau yn dathlu celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth, theatr a threftadaeth, mewn lleoliadau amrywiol ar draws canol y dref.
Thema’r ŵyl eleni yw ‘Eiconau Dramatig’ ac rydym yn falch o groesawu’r actores Y Fonesig Siân Phillips i siarad am ei hunangofiant a’i gyrfa ddisglair o flaen cynulleidfa yn Neuadd Gwyn. Gan droi’r sylw at eiconau dramatig lleol eraill, rydym yn falch o groesawu’r awdures a’r academydd Gillian Kelly i Gastell-nedd i drafod ei llyfr newydd am yr enillydd Oscar, Ray Milland, a’r awdures Angela V. John yn siarad am ei llyfr ‘Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton’ am yr unigolyn sy’n cael y clod am helpu Richard Burton i ddod o hyd i enwogrwydd.
Bydd Gruff Rhys yn chwarae sioe unigol yn Neuadd y Gwyn wedi i’w albwm diweddaraf ‘Dim Probs’ gael ei ryddhau, a bydd Eglwys Dewi Sant yn ganolfan ar gyfer perfformiadau gan gerddorion a chantorion lleol.
Oriel Stryd y Frenhines a Stiwdio 40 yw lleoliadau arddangosfeydd o waith Grŵp Burton-Bont a gweithiau celf wedi’u hysbrydoli gan ‘Dan y Wenallt’.
Bydd Theatr Fach Castell-nedd yn cynnal perfformiad o ‘Martin Decker: DAD’ a berfformir gan Keiron Self, a Neuadd y Dref Castell-nedd fydd y lleoliad ar gyfer pedwar diwrnod o ddarlleniadau a thrafodaethau gan gymysgedd eclectig a chyffrous o awduron gan gynnwys yr Arglwydd Peter Hain, Joe Dunthorne a Gwenno Gwilym.
Bydd ein hamgueddfa dros dro yn agor am dri diwrnod yng Nghanolfan Gymunedol Stryd y Berllan gan roi cipolwg i bobl ar hanes y dref, a bydd yr ŵyl yn trefnu ymweliadau gan awduron a cherddorion ag ysgolion cynradd lleol gan sicrhau y bydd cannoedd o blant yn cael profiadau diwylliannol.
Bydd nifer o weithdai celf a pherfformio i bobl sy’n chwilio am gyfle i fod yn greadigol yn digwydd yn ystod yr ŵyl hefyd.
Rydym yn ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr a’n partneriaid am helpu i wireddu digwyddiad eleni ac yn diolch yn arbennig i Gyngor Tref Castell-nedd am ei gefnogaeth gadarn wrth wneud i’r cyfan ddigwydd. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr ŵyl!
