
We need you!
17 August 2025
Fundraising
17 August 2025Rydym yn dibynnu ar nawdd a rhoddion er mwyn llwyfannu’r ŵyl ac felly rydym wrthi’n trefnu digwyddiadau codi arian.
Dyma beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar.
Gwnaeth y pwyllgor cerddoriaeth drefnu cwis cerddorol heriol ar y 5ed o Orffennaf yn Theatr Fach Castell-nedd.
Llongyfarchiadau mawr i’r tîm buddugol, Tracey Island!
Codwyd £354!
Ar ddydd Sadwrn braf gwnaeth y pwyllgor llenyddiaeth werthu hen lyfrau y tu allan i siôp goffi Monty’s yng nghanol dref Castell-nedd a chodi £134 at yr ŵyl. Braf siarad â phobl ac hyrwyddo’r ŵyl.


