
What’s next | Beth sydd nesaf
20 August 2025
Gruff Rhys appears at Neath Arts Festival
22 August 2025Dydd Sadwrn 18 Hydref, 8.15pm yn Neuadd Gwyn.
Mae Gruff Rhys yn ymddangos yng Ngŵyl Gelfyddydau Castell-nedd yn fuan wedi iddo ryddhau ei albym arbennig newydd, ‘Dim Probs’. Un o gyfansoddwyr mwyaf creadigol a chynhyrchiol Cymru, daeth Gruff Rhys i sylw’r cyhoedd gyda’r grwpiau Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals. Ond mae Gruff wedi cael llwyddiant mawr fel artist unigol hefyd ac rydym yn falch iawn o’i groesawu i Gastell-nedd eleni.
Daeth yr ysbrydoliaeth am ‘Dim Probs’ – nawfed albwm unigol Gruff – wrth iddo ail wrando ar gerddoriaeth electronig Cymraeg oedd wedi ei recordio ar gasetiau o’r ‘80au. Mae’r teitl yn chwareus gan bod geiriau’r caneuon yn ymateb i bryderon cyfoes mewn byd sydd prysur yn newid.
Mae Gruff yn gyfansoddwr ac artist recordio hynod o greadigol a dyfesigar sydd wedi rhyddhau 26 albwm stiwdio hyd yn hyn.
Mae cerddoriaeth Gruff yn enwog am ei melodïau bendigedig. Mentrodd Seeking New Gods i dir newydd o ran geiriau a cherddoriaeth yn 2021 gan gyrraedd y Deg Uchaf. Mae’n record gysyniadol am ei fynydd ei hun a daeth yn albwm unigol mwyaf llwyddiannus yn feirniadol ac yn fasnachol hyd yma. Yn 2024 rhyddhawyd ei ddilyniant, y gân bop baróc sgrin lydan ‘Sadness Sets Me Free’. Wedi’i recordio ar gyrion Paris gyda’i fand, cafodd yr albwm adolygiadau gwych pellach a chafodd ei ganmol yn eang fel un o weithiau gorau Gruff. Yn 2025 rhyddhawyd ei albwm Cymraeg diweddaraf Dim Probs.
Mae Gruff wedi bod yn rhyddhau recordiau ers 1988 gyda’i fand cyntaf Ffa Coffi Pawb cyn dod yn adnabyddus fel prif leisydd Super Furry Animals – band sydd wedi gallu cyflawni’r cymysgedd prinnaf hwnnw – antur artistig gydag ymroddiad poblogaidd – gan gyfuno roc ffwzz, harmonïau pur ac electroneg arloesol.

